top of page
Sedna Inuit featured Goddess mermaid under the arctic sea.jpg

Sedna
Gan P.B. Phillips

 ‘Sedna. Bydd dy hun yn feistr’, meddai ei mam,

 ‘Yf y ddiod hon a byddi’n dewis pwy a phryd y byddi’n priodi’.

 

‘Na ad i dy dad orfodi gŵr arnat ti.’

Cymerodd Sedna eiriau ei mam i galon, a thyngodd i aros yn bur ac yn rhydd.

 

‘Gnei di fel yr archaf fi’ oedd gair ei thad yn gyfraith.

Ond dwyn caiac a wnaeth Sedna a theithio ymhell o’r lan.

 

Galwodd y tad drwg ar y Duwiau, i ddwyn storm rymus.

Roedd Sedna wedi dychryn ac wedi blino’n lân wrth gael ei thynnu o’i chwch.

 

Yn gafael am ei bywyd yn dynn ag y gallai.

Tynnwyd ei bysedd i ffwrdd a llithrodd o dan y tonnau.

 

Gyda hud, daeth bysedd Sedna yn holl fwystfilod y dyfnder.

Tyfodd ei dicter yn erbyn dynoliaeth ac ni chysga byth.

​

bottom of page